Gair y dydd: brethyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r brethyn yng nghoron Eisteddfod y Garreg Las wedi ei wehyddu'n arbennig i gynrychioli 'Aur dan y rhedyn, arian dan yr eithin, Newyn dan y grug'. Tybed pwy fydd enillydd y goron hardd hon? Llun: #GemwaithBowenJewellery
Профиль
Y Geiriadur
Профиль VivelyGair y Dydd: CARAFANIO geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef teithio neu aros mewn carafán, a threulio gwyliau mewn carafán. Mae'n siwr y bydd nifer ohonoch sy'n mynd i'r Eisteddfod eleni yn clywed cwestiwn tebyg i hwn: 'Ydych chi'n gwersylla neu'n carafanio 'leni?'
Gair y Dydd cawsellt geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llestr neu fold y gwesgir y ceulfraen ynddo i’w droi’n gaws. commons.wikimedia.org/wiki/File:Ch...
Gair y dydd: CRINSYCH geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... gair addas iawn i ddisgrifio’r borfa sych a chrimp o flaen swyddfeydd GPC heddiw. Yr un elfen CRIN a geir yn CRINTACH, am berson cybyddlyd, nad yw’n fodlon rhannu dim o’i arian na’i eiddo: roedd CRIMPYM yn air arall am berson o’r fath!
Gair y Dydd: treftadaeth geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html.... Bum mlynedd i heddiw enillodd ardaloedd llechi gogledd orllewin Cymru statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. (Llun: offer weindio yn chwarel Dinorwig)
Gair y dydd: brig-lyfr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html...? Dyma un o'r geiriau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Tybed pa un fydd brig-lyfr yr Eisteddfod eleni? Pa lyfr yr ydych chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Gair y Dydd: baldorddi geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef siarad yn gyflym ac yn barhaus mewn ffordd wirion, gynhyrfus, neu annealladwy, yngan yn gyflym ac yn aneglur, clebran, gwag-siarad, siarad lol, malu awyr, a phreblan. Pa air fyddech chi'n ei ddefnyddio?
Gair y Dydd pentref geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Grŵp o dai sy’n ffurfio uned lai na thref. CC BY-SA 4.0 Timothy A. Gonsalves commons.wikimedia.org/wiki/File:Ar...
Gair y dydd: diduedd ‘heb fod â thuedd neu ogwydd at un garfan yn fwy na’r llall, amhleidiol’ www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html..., un o’r geiriau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Gair y Dydd: sychin geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... sef hin (tywydd) sych neu sychder. Tybed faint fydd y sychin yn para eleni?
Gair y dydd: broch geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Enw arall ar fochyn daear. Un o'r geiriau sydd newydd eu cyhoeddi gan GPC. Cymerwch olwg hefyd ar broch2.
Gair y Dydd: sglefrfyrddiwr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Yn golygu 'un sy’n sglefrfyrddio'. Roedd Norman Preis yn dipyn o sglefrfyrddiwr yng nghyfres 'Sam Tân'. Dyma un o'r geiriau newydd a ychwanegwyd at y Geiriadur yr wythnos hon! 📷BBC IPlayer
Gair y Dydd dinas www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Tref wedi ei breinio drwy siartr, tref fawr; tref (gaerog neu heb gaerau) CC BY-SA 2.0 Dan commons.wikimedia.org/wiki/File:Ba...
Gair y Dydd: YSGALL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Planhigyn pigog, sy'n tyfu'n aml mewn tir a esgeuluswyd, ynghyd â drain a mieri, fel yn adfeilion llys Ifor Hael, yn ôl disgrifiad enwog Ieuan Brydydd Hir (18 gan.) Drain ac YSGALL mall a'i medd, Mieri, lle bu mawredd.
Gair y dydd: plaid geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Ar y dydd hwn yn 1966 etholwyd Gwynfor Evans i gynrychioli etholaeth Caerfyrddin, a thrwy hynny, yn AS cyntaf Plaid Cymru. Gweler amryw ystyron plaid, megis cefnogaeth, pared o wiail, beudy, brwydau mewn gwŷdd, rheng, ac wrth gwrs parti gwleidyddol!
Gair y dydd: llyfr geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Llongyfarchiadau mawr i lywydd Cyfeillion GPC, y Prifardd Mererid Hopwood, ar ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026, gyda'i chyfrol, 'Mae'. Dyma'r tro cyntaf i gyfrol o farddoniaeth ennill ers 2002. Llun: LlenyddiaethCymru
Gair y Dydd: ymlwybro geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Berf sy'n golygu teithio, crwydro neu wneud ei ffordd, cyfeirio ei gamre, cerdded, mynd, neu symud (yn llafurus neu’n ymdrechgar). Yn ffigurol, gall olygu dilyn llwybr, cwrs, neu rod. A fentrwch chi ymlwybro i rywle'r penwythnos hwn?
Gair y dydd: niwlen geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... Mae'r bryniau o'r golwg bore 'ma! Gweler hefyd niwl.
Gair y dydd: gwlydd tatws www.geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... ‘rhan ddeiliog planhigion tatws, sy’n tyfu uwchlaw’r ddaear’.
Gair y dydd: hosbins geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html... 'Grisiau cerrig i esgyn ar gefn ceffyl'. Gweler hefyd esgynfaen, carreg farch, a horsbloc. Mae’r esiampl a welir yn y llun tu allan i ddrws tafarn a adeiladwyd yn yr 17g., ac mae cyflwr y garreg yn tystio iddo gael tipyn o ddefnydd yn ei ddydd.